Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 4
Gorffennaf 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13404
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Cynigion i ethol Aelodau i Bwyllgorau (5 munud)
Dechreuodd yr eitem am 14.32
NNDM8316 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau yn lle Luke Fletcher (Plaid Cymru).
NNDM8317 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn lle Heledd Fychan (Plaid Cymru).
NNDM8318 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Heledd Fychan (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Sioned Williams (Plaid Cymru).
NNDM8319 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru).
NNDM8320 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Luke Fletcher (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn lle Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru).
NNDM8321 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Adam Price (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn lle Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru).
NNDM8322 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Adam Price (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn lle Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru).
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig i Ethol Aelod i Gomisiwn y Senedd (5 munud)
Dechreuodd yr eitem am 14.32
NNDM8324 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Adam Price (Plaid Cymru) yn aelod o Gomisiwn y Senedd.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 75
Dechreuodd yr eitem am 14.33
4 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Ddatblygu’r Gweithlu Ôl-16
Dechreuodd yr eitem am 15.11
5 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Ddiogelwch Adeiladau
Dechreuodd yr eitem am 15.35
6 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ‘Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU’
Dechreuodd yr eitem am 16.06
7 Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023
Dechreuodd yr eitem am 16.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8311 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2023.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
9 |
15 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael
Dechreuodd yr eitem am 16.51
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8310 Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Caffael sy’n ymwneud ag ymchwiliadau gwahardd, gwaharddiadau oherwydd diogelwch cenedlaethol, atal a diwygiadau technegol eraill, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
10 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
9 Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2023-2024
Dechreuodd yr eitem am 17.15
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8298 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 13 Mehefin 2023.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
15 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
10 Dadl: Cysylltiadau Addysg â Chyflogwyr
Dechreuodd yr eitem am 17.37
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8309 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad Hefin David AS, ‘Pontio i Fyd Gwaith: Adroddiad i Lywodraeth Cymru’.
2. Yn cydnabod rôl addysg wrth ddarparu’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen ar ddysgwyr yng Nghymru er mwyn ymateb i ofynion economi Cymru.
Pontio i Fyd Gwaith: Adroddiad i Lywodraeth Cymru
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu na ddylai'r baich ariannol ar gyfer prentisiaethau gradd ddisgyn ar yr unigolyn ac y dylai pob fath o addysg fod yn rhad ac am ddim.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
15 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8309 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad Hefin David AS, ‘Pontio i Fyd Gwaith: Adroddiad i Lywodraeth Cymru’.
2. Yn cydnabod rôl addysg wrth ddarparu’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen ar ddysgwyr yng Nghymru er mwyn ymateb i ofynion economi Cymru.
3. Yn credu na ddylai'r baich ariannol ar gyfer prentisiaethau gradd ddisgyn ar yr unigolyn ac y dylai pob fath o addysg fod yn rhad ac am ddim.
Pontio i Fyd Gwaith: Adroddiad i Lywodraeth Cymru
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
15 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
11 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.26
Daeth y cyfarfod i ben am 18.31
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 5 Gorffennaf 2023